Capel Bethania
Wrth ddarparu gwybodaeth am Gapel Bethania, cyfeiriodd Mr Turner at y llyfryn a ysgrifennwyd gan ei frawd-yng-nghyfraith, Gwynfor Phillips, a gyhoeddwyd ym 1997.
Cafwyd rhywfaint o wybodaeth ychwanegol trwy drafodaethau â phobl leol gan gynnwys Lili Thomas, a thrwy ymchwil ar-lein.
Adeiladwyd Capel Bethania ym 1839 (y flwyddyn y dechreuodd Terfysgoedd Beca). Roedd y tir yn cael ei rentu gan Rydygarregddu am 6s (30c) y flwyddyn.
Ym 1989 pan ddathlwyd 150 o flynyddoedd ers codi’r capel, cyflwynodd teulu Jones y brydles i’r Capel am ddim. Safai bwthyn bach, Bryntirion, lle mae’r festri heddiw. Cafodd ei ddymchwel, ac adeiladwyd stablau yn ei le gan fod pobl yn dod o bell i’r capel, ond ymhen amser adeiladwyd y festri yn eu lle.
Yn dilyn rhwyg ym Methania, adeiladwyd Capel Bethel i lawr y ffordd, tuag at Penybont. Cafodd yr anghytundeb ei ddatrys ac ni chafodd ei ddefnyddio fel capel erioed. Daeth yn dŷ, Llygaid yr Haul, ac yn wreiddiol roedd wedi’i rannu’n ddau fflat. Arferai Harry’r Gof fyw yno.
Ym 1927 adnewyddwyd y capel gan osod llawr parquet, seddi newydd, pulpud, ffenestri a drysau.
Cymerodd Gwilym Wilkins (Danybont, Talog) yr awenau gan Harry fel gof. Ef oedd arweinydd côr Capel Bethania, ac mae plac i’w goffáu yn y capel. Gan nad oedd organ ym Methania cyn i drydan ddod i’r pentref, arferai Gwilym ddechrau’r canu trwy daro picfforch, a hymian y nodyn a gynhyrchwyd. Ni chynhaliwyd priodasau yn y Capel tan 1989. Cyn hynny, cynhaliwyd priodasau lleol yng Nghapel Foelcwan (chwaer gapel i Fethania), neu yng Nghapel y Tabernacl yng Nghaerfyrddin.