Neuadd Gymunedol Talog yn yr 21ain Ganrif
Golygfa ‘ôl-weithredol’ fer o Neuadd Gymunedol Talog.
Golygfa ‘ôl-weithredol’ fer o Neuadd Gymunedol Talog.
Wrth ddarparu gwybodaeth am Gapel Bethania, cyfeiriodd Mr Turner at y llyfryn a ysgrifennwyd gan ei frawd-yng-nghyfraith, Gwynfor Phillips, a gyhoeddwyd ym 1997.
Cafwyd rhywfaint o wybodaeth ychwanegol trwy drafodaethau â phobl leol gan gynnwys Lili Thomas, a thrwy ymchwil ar-lein.
Adeiladwyd Capel Bethania ym 1839 (y flwyddyn y dechreuodd Terfysgoedd Beca). Roedd y tir yn cael ei rentu gan Rydygarregddu am 6s (30c) y flwyddyn.
Ym 1989 pan ddathlwyd 150 o flynyddoedd ers codi’r capel, cyflwynodd teulu Jones y brydles i’r Capel am ddim. Safai bwthyn bach, Bryntirion, lle mae’r festri heddiw. Cafodd ei ddymchwel, ac adeiladwyd stablau yn ei le gan fod pobl yn dod o bell i’r capel, ond ymhen amser adeiladwyd y festri yn eu lle.
Yn dilyn rhwyg ym Methania, adeiladwyd Capel Bethel i lawr y ffordd, tuag at Penybont. Cafodd yr anghytundeb ei ddatrys ac ni chafodd ei ddefnyddio fel capel erioed. Daeth yn dŷ, Llygaid yr Haul, ac yn wreiddiol roedd wedi’i rannu’n ddau fflat. Arferai Harry’r Gof fyw yno.
Ym 1927 adnewyddwyd y capel gan osod llawr parquet, seddi newydd, pulpud, ffenestri a drysau.
Cymerodd Gwilym Wilkins (Danybont, Talog) yr awenau gan Harry fel gof. Ef oedd arweinydd côr Capel Bethania, ac mae plac i’w goffáu yn y capel. Gan nad oedd organ ym Methania cyn i drydan ddod i’r pentref, arferai Gwilym ddechrau’r canu trwy daro picfforch, a hymian y nodyn a gynhyrchwyd. Ni chynhaliwyd priodasau yn y Capel tan 1989. Cyn hynny, cynhaliwyd priodasau lleol yng Nghapel Foelcwan (chwaer gapel i Fethania), neu yng Nghapel y Tabernacl yng Nghaerfyrddin.
Mae ychydig o’r cerrig beddi a’r placiau coffa i’w gweld yng Nghapel Bethania.
Thomas Thomas, 1854 a’i deulu
Er coffadwriaeth am Thomas Thomas masnachwr Talog o’r Plwyf hwn yr hwn a fu farw Ion 19 1854 yn 41 oed Hefyd Margaret ei wraig a fu farw Ion 27 1854 yn 39 oed Hefyd David eu mab a fu farw Ion 5 1854 yn 15 oed Hefyd Mary eu mherch a fu farw Chwef 10 1854 yn 17 oed
Edrych ar orchwyl DUW canys pwy a all unioni y peth a gam modd efe
Dau o’r cerrig beddi ar gyfer aelodau o’r teulu Jones, Rhydygarregddu, Talog
Placiau i Gwilym Wilkins a Gwynfor Phillips yng Nghapel Bethania
Athro Henry Harford Williams
Wedi’i fagu ym Meidrim, astudiodd ym Mhrifysgol Aberystwyth a daeth yn wyddonydd amlwg, gan arbenigo mewn parasitoleg pysgod. Yn ôl ei deulu “Roedd yn ddyn gweithgar, gyda nifer o ddiddordebau, ac ni wyddai pryd i gymryd hoe o’i gwaith. Ar ddiwedd diwrnod caled o waith, byddai’n aml yn dweud ei fod wedi’i gorwneud hi: “Dw i wedi’i gorwneud i”