Skip to content

Rick

Thomas Thomas – gweledigaeth a menter

“A Vision and a Venture” Dyma’r tudalennau Saesneg o’r llyfryn a ysgrifennwyd gan Gwynfor Phillips. Mae’r crynodeb diddorol hwn o beth o hanes Talog yn tynnu sylw at arwyddocâd Thomas Thomas a sefydlodd y siop ac a fu’n allweddol wrth sefydlu Capel Bethania. Bu farw ef a’i deulu ym 1854 ar ôl iddo gontractio tyffws ar daith i Felinau Swydd Gaerhirfryn.

Tudalen 1 o 2
Tudalen 2 o 2

Mair Davies, Cenhadwr y Bedyddwyr

Pan adawodd Mair Davies yr ysgol yn Cwmogor, yn 13 oed, aeth i fyw gyda’i modryb a’i hewythr ym Mhantdwrgns, Talog, gan fyw yno am 9 mlynedd. Fodd bynnag, yn angladd ei thad teimlai fod yn rhaid iddi helpu pobl dramor, a chynigiodd ei hun i Wasanaeth Cenhadol y Bedyddwyr.

Aeth i hyfforddi i’r Rhondda, Caerfyrddin, a Llundain.Bu Mair yn gweithio fel cenhades gyda’r Bedyddwyr yn India rhwng 1927 a 1967. Fe’i disgrifiwyd fel y Fam Theresa, yn helpu’r gwan a’r tlotaf. Mae llawer o bobl Talog yn ei chofio pan ddeuai’n ôl i’r ardal mewn dillad Indiaidd, gyda’i merch fabwysiedig, Shontu. Mae wedi’i chladdu yng Nghapel Bethania

Siop Talog

Sefydlwyd siop Talog yn 1836 ac yn 1851 roedd yn cael ei rhedeg gan Thomas Thomas.. Bu farw nifer o deulu Thomas mewn epidemig yn 1854, a chafodd y teulu ei ddileu bron yn llwyr. Bu farw Thomas Thomas yn 41 oed; ei wraig, Margaret, oedd yn 39 oed; ei ferch, Mary oedd yn 17 oed; a’i fab, David oedd 15 oed. Ar wahân i hyn bu farw dau blentyn arall yn ifanc; un yn ddim ond 1 diwrnod oed, a’r llall yn 7 wythnos oed.

Yn ôl  Mr Turner “Roedd Siop Talog yn fusnes llewyrchus. Roedd warws ar Gei Caerfyrddin lle’r arferai llongau ddod i Gaerfyrddin i fyny’r afon. Adeiladwyd rheilffordd i Gaerfyrddin yn 1852 a bu’n rhaid iddynt adeiladu pont oedd yn agor er mwyn i longau allu dod i mewn. Mae’n bosibl gweld y bont honno heddiw o B&Q. Roedd teulu Thomas yn berchen ar y warws neu’n ei rentu. Deuai’r nwyddau i mewn ar gwch ac roeddent yn cael eu storio yno, cyn eu cludo i bentref Talog.”

Roedd hyn yn golygu bod angen defnyddio un o’r tollbyrth yng Nghaerfyrddin a fu’n yn rhan o Derfysg Beca.

Yn y 1900au etifeddodd Thomas Richard Thomas y siop, ac aeth ei frawd iau, Walter Thomas i Lundain i weithio fel gweithiwr siop. Roedd eu chwaer yn byw yn Troed y Rhiw, Talog. Dychwelodd Walter Thomas o Lundain i helpu i redeg y siop, ac fe’i galwyd yn Thomas Brothers.

Mae gan Mr Turner dderbynebion sy’n dangos bod y siop yn 1913, dan yr enw T.R. Thomas, yn gwerthu “Dillad, Bwyd, Nwyddau Haearn, Hadau a Gwrtaith”, gyda “Gwasanaeth Angladdau Llawn”. Yn 1932 enw’r siop oedd “Thomas Bros. Grocers, Drapers and General Merchants”.

“Gwerthwyd bob math o eitemau yn y siop, gan gynnwys gwrteithiau, porthiant anifeiliaid – gellid cael unrhyw beth ym mhentref Talog. Roedd ganddynt eu buwch a’u cae eu hunain, felly roedd ganddynt laeth ffres.” “Pe baech am gael siwt, byddent yn eich mesur, yna byddech yn dewis y defnydd o lyfr, yr arddull yr oeddech am ei gael, faint o bocedi yr oeddech eisiau, gyda llabedi sengl neu labedi dwbl, a byddai’n barod o fewn wythnos.”

Roedd yr arfer hwn wedi dod i ben erbyn i Mr Turner symud i’r pentref.

Y Dyddiau Cynnar
Rhai derbynebau cynnar
Thomas Bros
Siop y Pentref a Swyddfa’r Post
HDG Farm Supplies