Skip to content

Rick

Arolwg drwy’r post Neuadd Gymunedol Talog 2024.

Ar ddechrau mis Hydref 2023, ar ran Bwyllgor Neuadd Gymunedol Talog, fe wnaeth y Post Brenhinol ddosbarthu 6314 o holiaduron i bob cyfeiriad a chôd post SA33 4, SA33 5 a SA33 6. Dychwelwyd 505 dros gyfnod o thri fis ac fe garai’r Pwyllgor ddiolch i bawb am ymateb. Yn anffodus mae’r Neuadd yn dod i ddiwedd ei hoes, ac felly ailadeiladu, heb golli cymeriad yr adeilad presennol yw’r unig ateb.

Mae’r Neuadd bresennol wedi bod yn ganolbwynt I’r gymuned am dros 105 o flynyddoedd. Mae’n cael ei defnyddio bron bob dydd ar gyfer amryw o weithgareddau cymunedol. Hefyd yn gartref i’r enwog ‘Dawnswyr Talog’ ac yn leoliad ymarferion i gôr Hafodwenog. Rhai blynyddoedd yn ôl roedd yna glwb ieuenctid ac hefyd cyn hynny roedd yna ddramau, cyngherddau ac adloniand byw. Mewn ardal Gymreig, braf yw gweld y Neuadd yn deny pobol o bob iaith. Cymraeg yw’r iaith flaenaf ym mhob gweithgaredd ac yn cael ei defnyddio i hybu ac i gadw’r iaith yn fyw yn hanes yr ardal leol.

Cynnwys yr holiaduron yw’r allwedd I’r Neuadd newydd, oherwydd mae’n dangos beth hoffai’r bobol weld yn cael eu cynnwys, ac hefyd yn sylfaen tuag at wneud ceisiadau am grantiau ariannol, heb anghofio am gynorthwyo i gadw’r gweithgareddau presennol i fynd.

Gofynnwyd pump cwestiwn. Y tri cyntaf yn holi am Neuadd newydd a’r effaith negyddol i fywyd cymdeithasol.pe byddem yn colli’r Neuadd, a’r angen am adeilad newydd.

Roedd y ddau gwestiwn arall yn gofyn pa weithgareddau hoffai’r cyhoedd a’i teuluoedd weld yn cael eu cynnal ac hefyd a fyddent yn eu cefnogi. Cafwyd ymateb anorthrech I’r teip o eitemau, a hynny yn rhy niferus I’w henwi i gyd.

Dangosir y gweithgareddau a awgrymwyd gan yr ymatebwyr y dylid eu cynnal yn y tabl isod.

Grwp plant bach a babanod, gyda gweithgareddau i fobol ifanc 771
Cymraeg i oedolion, gwersi, eisteddfodau, nosweithiau llawen a Merched y Wawr288
Unrhyw beth yn ymwneud a cherddoriaeth, dawnsio a chrefftau276
Rhywbeth dyddiol a nosweithiau cymdeithasol, marchnadoedd, coffi a chacennau nosweithiau bwyd, grwpiau a diddordeb arbennig, cyfarfodydd.271
Gemau tu fewn, gan gynnwys ymarfer corff, gemau tafarn a bwrdd, cwisiau ayyb221
Gweithgareddau i’r oedrannus197
Cyngherddau a dramau, grwpiau canu, perfformio neu ymarfer, ffilm193
Dosbarthiadau nos, hanes, archeoleg, clwb llyfrau 185

Siop, technoleg, canolfan cynghori, safle gwresog, hirio, lle i gysylltu modur Trydan, caffi

18

Dyma’r gweithgareddau y byddai teuluoedd yn mynychu:

Rhywbeth dyddiol a nosweithiau cymdeithasol, marchnadoedd, coffi a chacennau nosweithiau bwyd, grwpiau a diddordeb arbennig, cyfarfodydd.313
Dosbarthiadau nos, hanes, archeoleg, clwb llyfrau 185
Cyngherddau a dramau, grwpiau canu, perfformio neu ymarfer, ffilm164
Unrhyw beth yn ymwneud a cherddoriaeth, dawnsio a chrefftau124
Gemau tu fewn, gan gynnwys ymarfer corff, gemau tafarn a bwrdd, cwisiau ayyb119
Cymraeg i oedolion, gwersi, eisteddfodau, nosweithiau llawen a Merched y Wawr98
Grwp plant bach a babanod, gyda gweithgareddau i fobol ifanc 56
Gweithgareddau i’r oedrannus36
Siop, defnydd o’r we, canolfan gwybodaeth, hwb gwresog, hirio, lle i gysylltu modur trydan, caffi, ayyb25

Derbyniasom amryw o sylwadau, cynnigion ac awgrymiadau ar y ffurflenni a ddychwelwyd. Am yr holl wybodaeth yr ydym yn ddiolchgar iawn ac mi fyddwn yn eu trafod yn nyfodol y Neuadd newydd. Daeth cynnigion taw atgyweirio’r Neuadd dylem aneli ato. Yn anffodus rydym wedi cael ein cynghori fod yr adeilad ddim yn ddigon safonol i wneud hynny, ond gobeithir creu adeilad sy’n adlewyrchu cymeriad yr adeilad presennol. Rhaid cofio am ddiogelwch ac hefyd safiad egni. Derbyniasom cynnig help a chyngor oddi wrth bwyllgorau neuaddau eraill ac yr ydym yn ddiolchgar am bob cymorth. Byddwn yn cysylltu a chi yn y dyfodol.

Diolch, unwaith yn rhagoriI bawb a wnaeth ymateb ac am ddangos diddordeb yn ein Neuadd.

2024 Cystadleuaeth Celf Talog

Bydd cystadleuaeth gelf eleni yn agored i 3 chategori:
hyd at 11 oed
11 i 17
Dros 17.

Bydd gwobrau ar gyfer:
Mynediad gorau ym mhob grŵp oedran
Bydd y beirniaid yn chwilio am yr hyn maen nhw’n credu sy’n dehongli neu’n cynrychioli thema’r gystadleuaeth orau.
Bydd enillwyr y gystadleuaeth yn cael eu cyhoeddi yn ystod wythnos o ddigwyddiadau Amser Talog ym mis Medi gan banel o feirniaid.

Pobl

David Thomas (yn dal yn fyw). Preswylydd Talog. Dysgwr Cymraeg y flwyddyn 2021 ac aelod o’r Orsedd (2022) .
David Thomas, Dysgwr y Flwyddyn

Eddie Turner (dal yn fyw). Preswylydd Talog. Priododd Mair Phillips yn 1956 a symudasant i fyw gyda’i fam-yng-nghyfraith yn Nhalog. Ganed tad Mair, Gomer Phillips, yn Sarnau, Talog. Roedd ei thaid yn gowper ac yn rhedeg tafarn y Castle Inn. Roedd Gomer ac o leiaf un brawd yn llwyrymwrthodwyr. Darparodd lawer o’r wybodaeth ar gyfer y swyddi canlynol:
Dathlu 100 mlynedd o Neuadd Dalog
Siop Talog
Capel Bethania
Mair Davies, Baptist Missionary
Helyntion Beca

Yr Athro Henry Harford Williams (1931 – 2018). Cyfarwyddwr Sefydlu’r Brifysgol Agored yng Nghymru. Wedi’i eni ym Meidrim, daeth yn wyddonydd amlwg, yn arbenigwr mewn parasitoleg pysgod. Claddwyd ef yng Nghapel Bethania yn 2018.
Mynwent a Phlaciau Coffa Capel Bethania

Emily Philips (1896 – 1911).
Achos Ymlyniad Emily Phillips, Talog. Sgandal Edwardaidd yn Sir Gaerfyrddin

John Davies (1891 – 1965). Master Farrier.
Ble canodd yr Einvil am y tro cyntaf i John Davies, pencampwr ffarier Prydain Fawr bum gwaith?

Thomas Richard Thomas (), siopwr, Siop Talog. Ym 1914 rhoddodd fenthyg £40 i Bwyllgor yr Eisteddfod i brynu a storio pabell fawr (oddeutu £11,614.73 yn 2021). Ym 1920 trefnodd TR Thomas gludiant o orsaf Cynwyl Elfed y cwt cyn-fyddin a ddaeth yn Neuadd YMCA yn Nhalog.
100 Mlynedd o Neuadd Talog

Mair Davies (1895 – 1970). Cenhadwr gyda’r Bedyddwyr, yn byw ym Mhant Dwrgans, Talog.
Mair Davies, Cenhadwr y Bedyddwyr

Gwilym Wilkins ( ). Diacon y Capel, ac arweinydd cor Capel Bethania.
Mynwent a Phlaciau Coffa Capel Bethania

Gwynfor Phillips ( ). Diacon y Capel ac Ysgrifenydd. Hanesydd Talog
Thomas Thomas – gweledigaeth a menter
Mynwent a Phlaciau Coffa Capel Bethania

Thomas Thomas (). Siopwr.
Thomas Thomas – gweledigaeth a menter
Siop Talog
Helyntion Beca
Mynwent a Phlaciau Coffa Capel Bethania

John Harries (). Melinydd.
John Harries, Melin Talog
Helyntion Beca

Jacob Jones ( ). Perchennog tir. Cytunwyd i rentu tir ar gyfer Capel Bethania.
Capel Bethania
Mynwent a Phlaciau Coffa Capel Bethania

John Howell (). Llawfeddyg.
John Howell, 1781 – 1819. Llawfeddyg yng Nghwmni India’r Dwyrain