Skip to content

Arolwg drwy’r post Neuadd Gymunedol Talog 2024.

Ar ddechrau mis Hydref 2023, ar ran Bwyllgor Neuadd Gymunedol Talog, fe wnaeth y Post Brenhinol ddosbarthu 6314 o holiaduron i bob cyfeiriad a chôd post SA33 4, SA33 5 a SA33 6. Dychwelwyd 505 dros gyfnod o thri fis ac fe garai’r Pwyllgor ddiolch i bawb am ymateb. Yn anffodus mae’r Neuadd yn dod i ddiwedd ei hoes, ac felly ailadeiladu, heb golli cymeriad yr adeilad presennol yw’r unig ateb.

Mae’r Neuadd bresennol wedi bod yn ganolbwynt I’r gymuned am dros 105 o flynyddoedd. Mae’n cael ei defnyddio bron bob dydd ar gyfer amryw o weithgareddau cymunedol. Hefyd yn gartref i’r enwog ‘Dawnswyr Talog’ ac yn leoliad ymarferion i gôr Hafodwenog. Rhai blynyddoedd yn ôl roedd yna glwb ieuenctid ac hefyd cyn hynny roedd yna ddramau, cyngherddau ac adloniand byw. Mewn ardal Gymreig, braf yw gweld y Neuadd yn deny pobol o bob iaith. Cymraeg yw’r iaith flaenaf ym mhob gweithgaredd ac yn cael ei defnyddio i hybu ac i gadw’r iaith yn fyw yn hanes yr ardal leol.

Cynnwys yr holiaduron yw’r allwedd I’r Neuadd newydd, oherwydd mae’n dangos beth hoffai’r bobol weld yn cael eu cynnwys, ac hefyd yn sylfaen tuag at wneud ceisiadau am grantiau ariannol, heb anghofio am gynorthwyo i gadw’r gweithgareddau presennol i fynd.

Gofynnwyd pump cwestiwn. Y tri cyntaf yn holi am Neuadd newydd a’r effaith negyddol i fywyd cymdeithasol.pe byddem yn colli’r Neuadd, a’r angen am adeilad newydd.

Roedd y ddau gwestiwn arall yn gofyn pa weithgareddau hoffai’r cyhoedd a’i teuluoedd weld yn cael eu cynnal ac hefyd a fyddent yn eu cefnogi. Cafwyd ymateb anorthrech I’r teip o eitemau, a hynny yn rhy niferus I’w henwi i gyd.

Dangosir y gweithgareddau a awgrymwyd gan yr ymatebwyr y dylid eu cynnal yn y tabl isod.

Grwp plant bach a babanod, gyda gweithgareddau i fobol ifanc 771
Cymraeg i oedolion, gwersi, eisteddfodau, nosweithiau llawen a Merched y Wawr288
Unrhyw beth yn ymwneud a cherddoriaeth, dawnsio a chrefftau276
Rhywbeth dyddiol a nosweithiau cymdeithasol, marchnadoedd, coffi a chacennau nosweithiau bwyd, grwpiau a diddordeb arbennig, cyfarfodydd.271
Gemau tu fewn, gan gynnwys ymarfer corff, gemau tafarn a bwrdd, cwisiau ayyb221
Gweithgareddau i’r oedrannus197
Cyngherddau a dramau, grwpiau canu, perfformio neu ymarfer, ffilm193
Dosbarthiadau nos, hanes, archeoleg, clwb llyfrau 185

Siop, technoleg, canolfan cynghori, safle gwresog, hirio, lle i gysylltu modur Trydan, caffi

18

Dyma’r gweithgareddau y byddai teuluoedd yn mynychu:

Rhywbeth dyddiol a nosweithiau cymdeithasol, marchnadoedd, coffi a chacennau nosweithiau bwyd, grwpiau a diddordeb arbennig, cyfarfodydd.313
Dosbarthiadau nos, hanes, archeoleg, clwb llyfrau 185
Cyngherddau a dramau, grwpiau canu, perfformio neu ymarfer, ffilm164
Unrhyw beth yn ymwneud a cherddoriaeth, dawnsio a chrefftau124
Gemau tu fewn, gan gynnwys ymarfer corff, gemau tafarn a bwrdd, cwisiau ayyb119
Cymraeg i oedolion, gwersi, eisteddfodau, nosweithiau llawen a Merched y Wawr98
Grwp plant bach a babanod, gyda gweithgareddau i fobol ifanc 56
Gweithgareddau i’r oedrannus36
Siop, defnydd o’r we, canolfan gwybodaeth, hwb gwresog, hirio, lle i gysylltu modur trydan, caffi, ayyb25

Derbyniasom amryw o sylwadau, cynnigion ac awgrymiadau ar y ffurflenni a ddychwelwyd. Am yr holl wybodaeth yr ydym yn ddiolchgar iawn ac mi fyddwn yn eu trafod yn nyfodol y Neuadd newydd. Daeth cynnigion taw atgyweirio’r Neuadd dylem aneli ato. Yn anffodus rydym wedi cael ein cynghori fod yr adeilad ddim yn ddigon safonol i wneud hynny, ond gobeithir creu adeilad sy’n adlewyrchu cymeriad yr adeilad presennol. Rhaid cofio am ddiogelwch ac hefyd safiad egni. Derbyniasom cynnig help a chyngor oddi wrth bwyllgorau neuaddau eraill ac yr ydym yn ddiolchgar am bob cymorth. Byddwn yn cysylltu a chi yn y dyfodol.

Diolch, unwaith yn rhagoriI bawb a wnaeth ymateb ac am ddangos diddordeb yn ein Neuadd.