Mae Jeni Molyneux yn byw yn Lloegr ond sylweddolodd fod ganddi lawer o hynafiaid o Abernant, Trelech a’r Betws, a Thalog. Datgelu papurau a llythyrau teulu Howell a Thomas, yn gyntaf yn Swyddfa Cofnodion Sir Benfro, yna yn y Llyfrgell Genedlaethol, ac yna yn Swyddfa Cofnodion Swydd Northampton, sydd wedi gwneud yr ymchwil sylfaenol hwn yn bosibl. Casglwyd y papurau i gyd gan y Parch Thomas Thomas, a oedd yn hynafiaethydd amatur, yn ogystal â chlerigwr. Yn 2019 rhoddodd sgwrs yn Eglwys Sant Lucia, Abernant, am ei hynafiad, John Howell. Ganwyd ef yn 1781 yn Rhydygarregddu, Talog, ac aeth i India i weithio fel llawfeddyg. Mae’r trawsgrifiad hwn o’i sgwrs ddiddorol yn sôn am berthnasau eraill o’r ardal hefyd. Mae wedi ei atgynhyrchu yma gyda chaniatâd caredig Jeni Molyneux sy’n cadw hawlfraint yr erthygl hon.
John Howell 5th November 1781- 28th June 1819
Surgeon in the East India Company -7th Regiment Native Infantry
from Rhydd y Garreg Ddu, Talog, to Kissengunge, India.
Ar 30 Mehefin 2019 cynhaliwyd gwasanaeth coffa yn St Lucia’s, Abernant i gofio am fywyd y Cymro ifanc hwn o Dalog, Sir Gaerfyrddin.
John Howell (dyweda ei dad Thomas Howell wrthym mewn llythyr a ysgrifennwyd yn 1785 at ei frawd yng nghyfraith) fod John, ei fab ieuengaf wedi ei eni am 4pm ar brynhawn y 5ed o Dachwedd 1781 ar fferm Rhydd y garreg ddu. Brawd hynaf John oedd Howell Howell, pum mlynedd yn hŷn, a ganwyd yn 1776 yn Abernant. Bu Howell Howell yn amaethu gerllaw yn Nghwmgest hyd ei f. yn 1840. Y brawd hyn, Howell Howell, a eirio, ac a drefnodd i’r gofeb uchod yn eglwys St. Lucia gael ei chodi er cof am ei frawd.
Roedd yn rhaid i John, fel y brawd ieuengaf heb unrhyw etifeddiaeth ddisgwyliedig, wneud ffordd arall mewn bywyd. Ymddengys iddo gael ei gynnal yn ariannol a mwy na thebyg iddo gael ei addysg gan ei ‘Anwyl Ewythr’ y Parch. Thomas Thomas a fu’n gurad yn Isham a Farndon yn sir Gaerlŷr. Ar droad y ganrif yn 1800 mae John Howell yn 19 oed ac mae eisoes yn Aelod o Goleg Brenhinol y Llawfeddygon. Bedair blynedd yn ddiweddarach, yn 1804 ac yn 23 oed mae’n cyflawni ei MD ac yn dod yn llawfeddyg yn Llundain.
Y flwyddyn ganlynol, mae’r Parch Thomas Thomas yn derbyn llythyr dyddiedig 6 Chwefror 1805 gan rieni John Howell, Rosamond a Thomas Howell, yn gofyn ei gyngor ynglŷn â ‘sut i godi £150 am offer India’
Fodd bynnag, mae ffawd yn garedig ac ychydig fisoedd yn ddiweddarach, yn 1805, penodir John Howell yn Llawfeddyg Cynorthwyol ar gyfer Bengal, India, yng Nghwmni India’r Dwyrain. Hwyliodd John Howell i Calcutta ar y llong Britannia fel 3ydd is-gapten gan gyrraedd Bengal ym mis Rhagfyr 1805 i gymryd ei swydd.
Ar y 3ydd o Fawrth 1806 aeth John Howell i Wasanaeth Meddygol India fel Llawfeddyg Cynorthwyol yn Benares, India. (Varanasi presennol). Ni chlywir mwy am fywyd John Howell yn India am y 9 mlynedd nesaf…
- Yna ym mis Mai 1814, yn 33 oed mae John Howell yn ysgrifennu at ei ewythr y Parch Thomas Thomas yn sôn ei fod ‘wedi cael damwain ddrwg wrth farchogaeth a’i fod yn dioddef iechyd gwael o ganlyniad i hynny’
- Yn 1814 cymerodd John Howell seibiant o’i waith a theithiodd adref oherwydd salwch ardystiedig.
- Ar 16 Mehefin 1814 ymadawodd John Howell, llawfeddyg, â Calcutta ar fwrdd y llong Matilda i ddychwelyd adref i Portsmouth. Roedd dau o weithwyr Cwmni India’r Dwyrain yn dod adref o Calcutta: Mr John Howell a’r Capten S. Lutwige o’r 11eg gatrawd o droedfilwyr brodorol a oedd hefyd ar absenoldeb salwch.
- Ar 16 Rhagfyr 1814, mae John Howell yn cyrraedd Portsmouth ac yn ysgrifennu llythyr at ei ewythr, y Parch Thomas Thomas yn Farndon, yn disgrifio mordaith boenus iawn. Mae’n amlwg bod John Howell yn wael.
- 8 Mehefin 1815 Mae’r Parch Thomas Thomas yn ysgrifennu at ŵr ei nith Phoebe, y Parch Thomas Skeel yn Nhŷ Newydd, Sir Benfro yn gofyn iddo ddod i gasglu John Howell o “wallgofdy Mr Talbot” yn Bethnal Green.
- “Mae’n debyg mai’r cwymp oddi ar ei geffyl yn Asia yw’r prif reswm dros ei anffurfiad ar ôl effeithio ar ei asgwrn cefn a’i ymennydd… mae symud i’w awyr enedigol o bosibl yn fodd llesol o wella. Mae mwy i’w ddweud am faterion John Howell nag y gallaf ei egluro ar bapur. Mae Mr Talbot i gael £1.11.6 ceiniog yr wythnos, yn ogystal â rhai costau ychwanegol bob wythnos. osgo fi gydag ateb cyn gynted â phosibl. Mewn llawer o drafferth meddwl”
- Yn yr haf hwnnw yn 1815 achubir John Howell o Bethnal Green, gan ŵr ei gefnder y Parch Thomas Skeel, a’i gymryd i Millbrook House, Caerfyrddin, i adfer ei bwyll.
- Yn 1817 dychwelodd John Howell i’w waith fel Llawfeddyg Cynorthwyol gyda Chwmni India’r Dwyrain yn Bengal gyda’r 7fed gatrawd o droedfilwyr brodorol.
- Yn 1818 enwebwyd John Howell yn Llawfeddyg gan Syr H. Inglis. Bart.
Bu farw John Howell ar 28 Mehefin 1819 yn 38 oed yn Kissengunge, Maharashtra, India. Gofynnodd i’r gofeb gael ei rhoi yn Eglwys Sant Lucia, Abernant.