Ar ddechrau mis Hydref 2023, ar ran Bwyllgor Neuadd Gymunedol Talog, fe wnaeth y Post Brenhinol ddosbarthu 6314 o holiaduron i bob cyfeiriad a chôd post SA33 4, SA33 5 a SA33 6. Dychwelwyd 505 dros gyfnod o thri fis ac fe garai’r Pwyllgor ddiolch i bawb am ymateb. Yn anffodus mae’r Neuadd yn dod i ddiwedd ei hoes, ac felly ailadeiladu, heb golli cymeriad yr adeilad presennol yw’r unig ateb.
Mae’r Neuadd bresennol wedi bod yn ganolbwynt I’r gymuned am dros 105 o flynyddoedd. Mae’n cael ei defnyddio bron bob dydd ar gyfer amryw o weithgareddau cymunedol. Hefyd yn gartref i’r enwog ‘Dawnswyr Talog’ ac yn leoliad ymarferion i gôr Hafodwenog. Rhai blynyddoedd yn ôl roedd yna glwb ieuenctid ac hefyd cyn hynny roedd yna ddramau, cyngherddau ac adloniand byw. Mewn ardal Gymreig, braf yw gweld y Neuadd yn deny pobol o bob iaith. Cymraeg yw’r iaith flaenaf ym mhob gweithgaredd ac yn cael ei defnyddio i hybu ac i gadw’r iaith yn fyw yn hanes yr ardal leol.
Cynnwys yr holiaduron yw’r allwedd I’r Neuadd newydd, oherwydd mae’n dangos beth hoffai’r bobol weld yn cael eu cynnwys, ac hefyd yn sylfaen tuag at wneud ceisiadau am grantiau ariannol, heb anghofio am gynorthwyo i gadw’r gweithgareddau presennol i fynd.
Gofynnwyd pump cwestiwn. Y tri cyntaf yn holi am Neuadd newydd a’r effaith negyddol i fywyd cymdeithasol.pe byddem yn colli’r Neuadd, a’r angen am adeilad newydd.
Roedd y ddau gwestiwn arall yn gofyn pa weithgareddau hoffai’r cyhoedd a’i teuluoedd weld yn cael eu cynnal ac hefyd a fyddent yn eu cefnogi. Cafwyd ymateb anorthrech I’r teip o eitemau, a hynny yn rhy niferus I’w henwi i gyd.
Dangosir y gweithgareddau a awgrymwyd gan yr ymatebwyr y dylid eu cynnal yn y tabl isod.
Grwp plant bach a babanod, gyda gweithgareddau i fobol ifanc | 771 |
Cymraeg i oedolion, gwersi, eisteddfodau, nosweithiau llawen a Merched y Wawr | 288 |
Unrhyw beth yn ymwneud a cherddoriaeth, dawnsio a chrefftau | 276 |
Rhywbeth dyddiol a nosweithiau cymdeithasol, marchnadoedd, coffi a chacennau nosweithiau bwyd, grwpiau a diddordeb arbennig, cyfarfodydd. | 271 |
Gemau tu fewn, gan gynnwys ymarfer corff, gemau tafarn a bwrdd, cwisiau ayyb | 221 |
Gweithgareddau i’r oedrannus | 197 |
Cyngherddau a dramau, grwpiau canu, perfformio neu ymarfer, ffilm | 193 |
Dosbarthiadau nos, hanes, archeoleg, clwb llyfrau | 185 |
Siop, technoleg, canolfan cynghori, safle gwresog, hirio, lle i gysylltu modur Trydan, caffi | 18 |
Dyma’r gweithgareddau y byddai teuluoedd yn mynychu:
Rhywbeth dyddiol a nosweithiau cymdeithasol, marchnadoedd, coffi a chacennau nosweithiau bwyd, grwpiau a diddordeb arbennig, cyfarfodydd. | 313 |
Dosbarthiadau nos, hanes, archeoleg, clwb llyfrau | 185 |
Cyngherddau a dramau, grwpiau canu, perfformio neu ymarfer, ffilm | 164 |
Unrhyw beth yn ymwneud a cherddoriaeth, dawnsio a chrefftau | 124 |
Gemau tu fewn, gan gynnwys ymarfer corff, gemau tafarn a bwrdd, cwisiau ayyb | 119 |
Cymraeg i oedolion, gwersi, eisteddfodau, nosweithiau llawen a Merched y Wawr | 98 |
Grwp plant bach a babanod, gyda gweithgareddau i fobol ifanc | 56 |
Gweithgareddau i’r oedrannus | 36 |
Siop, defnydd o’r we, canolfan gwybodaeth, hwb gwresog, hirio, lle i gysylltu modur trydan, caffi, ayyb | 25 |
Derbyniasom amryw o sylwadau, cynnigion ac awgrymiadau ar y ffurflenni a ddychwelwyd. Am yr holl wybodaeth yr ydym yn ddiolchgar iawn ac mi fyddwn yn eu trafod yn nyfodol y Neuadd newydd. Daeth cynnigion taw atgyweirio’r Neuadd dylem aneli ato. Yn anffodus rydym wedi cael ein cynghori fod yr adeilad ddim yn ddigon safonol i wneud hynny, ond gobeithir creu adeilad sy’n adlewyrchu cymeriad yr adeilad presennol. Rhaid cofio am ddiogelwch ac hefyd safiad egni. Derbyniasom cynnig help a chyngor oddi wrth bwyllgorau neuaddau eraill ac yr ydym yn ddiolchgar am bob cymorth. Byddwn yn cysylltu a chi yn y dyfodol.
Diolch, unwaith yn rhagoriI bawb a wnaeth ymateb ac am ddangos diddordeb yn ein Neuadd.