1887 Priodas
Erthygl ddoniol gan y Carmarthen Weekly Reporter, dydd Gwener 16 Medi 1887
PRIODAS UNION. Yr oedd pob un yn cynhyrfu boreu dydd Mawrth diweddaf yn Nhalog, canys yr oedd priodas i fod yn addaw mwy o lawenydd na gorfoledd difrifol. Rhoddwyd dwy garlant i fyny yn y pentref — un yn nhy J. Bowen, a’r llall yn y Castle Inn. Roedd popeth o liw llachar, neu siâp doniol, yn cael ei roi yn y garlantau. Y briodferch oedd Rebecca Davies, o Bantycoch, gweddw, 52 oed, a thri o blant, a:y priodfab oedd David James, Penbank, gwr gweddw, 74 oed, a saith o blant ; y ddau o Abernant. Erbyn wyth o’r gloch yr oedd dynion y pentref yn tanio drylliau, a’r un modd yr oedd ergydion yn cael eu tanio, yr hyn a barhaodd hyd nes y daeth y briodferch i Dalog, pryd y gollyngwyd foli er anrhydedd iddi. Effeithiwyd yn amlwg ar y briodferch oedd yn gwrido, yn enwedig pan ganfu nad oedd y priodfab wedi dod. Yr oedd y parti tanio erbyn hyn yn sychedig, a’r briodferch yn eu trin i wirodydd, ac wedi hyny adnewyddasant eu tanio yn egniol. Wedi i’r briodferch gael ei chadw dan ysbaid am haner awr, ymddangosodd y priodfab flodeuog, yn nghyda Mr Howells, Lan, a Mr Hughes, Ffynonwen, y rhai a ddygasant eu maglau i gario y pâr dedwydd i Eglwys Abernant. Yna aeth mwy o wirod rownd, a dilynodd y foli yn gyflym. Yr oedd y priodfab mor weithgar a bachgen ieuanc, a’r briodferch mor ddiymhongar ac mor ofnus a morwyn. Pan adawodd y parti Talog, cafwyd cawod o hen sgidiau a reis, rhuo o chwerthin, a foli olaf. Roedd pobl yn ei ystyried yn olygfa ddoniol, gan fod y priodfab yn hen, ac felly roedden nhw’n benderfynol o wneud ei briodas mor gyhoeddus â phosib. Hir oes i’r pâr dedwydd, canys er nad yn feddiannol ar ieuenctyd, hyderwn ei fod yn llawn doethineb, fel y gallo arwain ei wraig yn gywir. Mae cariad yn rheoli’r byd.–Com