Bedyddiwyd pobl cyn ymuno â Chapel Bethania. Yn wreiddiol byddai hyn yn yr afon; yna yn y siambr fedydd gerllaw Neuadd Talog, ar dir a roddwyd gan Benrallt; ac yn ddiweddarach yng Nghapel y Tabernacl yng Nghaerfyrddin. Yn 2018 cynhaliwyd “Bendith ar y Bedyddwyr”, dan arweiniad y Gweinidog, y Parchg. Peter Cutts, ac yn bresennol gan rai o’r rhai oedd wedi eu bedyddio yno.