Daw’r darn hwn o “How I became a Blacksmith”, nodiadau a ysgrifennwyd gan John Davies, a aned yn Nhalog yn 1891. Pan oedd yn blentyn, byddai’n aml yn mynd i’r Efail yn Nhalog lle dechreuodd ymddiddori mewn gwaith gof. Symudodd ei deulu i Langain pan oedd yn saith oed. Fel oedolyn, bu’n gweithio fel gof yng Nghaerfyrddin ac enillodd nifer o wobrau.
Mae’r nodiadau hyn yn sôn am ddigwyddiad yn ymwneud â “Dafi Gof”, gof Talog a fu farw ym 1905.
“Roedd yn ddyn cryf a byr ac yn garedig tuag at blant, ond nid oedd yn aelod llawn o’r capel lleol nes ei fod yn weddol hen. Mae gen i frith gof ohono’n cael ei fedyddio yn yr afon sy’n rhedeg trwy’r pentref ac achoswyd cynnwrf mawr yn y pentref y diwrnod hwnnw. Roedden nhw’n arfer bedyddio mewn pwll – yr enw arno hyd heddiw yw “pwll y bedydd1”. Ond trwy ryw anffawd mae’n rhaid bod Dafi Gof wedi cydio yn y gweinidog oherwydd tynnodd y gweinidog gydag ef i’r dŵr er mawr ddychryn i ni blant, a rhedon ni i gyd yn ôl i’r pentref gan weiddi “Mae Dafi gof wedi boddi”.
Fyddai hi ddim yn bosibl i hynny ddigwydd eto gan eu bod wedi dargyfeirio dŵr o’r rhyd i Fedyddfan a adeiladwyd o frics yn y cae gerllaw.”
Gyda diolch Jo Kerslake, wyres John Davies, am rannu’r wybodaeth
Gallwch ddarllen mwy am fywyd John Davies yn ‘Ble canodd yr Einvil am y tro cyntaf i John Davies, pencampwr ffarier Prydain Fawr bum gwaith?‘, ac mae ychydig mwy o wybodaeth am y fedyddfaen yn ‘Bendith y Bedydd‘